Mae pawb ohonom yn gobeithio nad oes dim annisgwyl byth yn mynd o'i le, ond fe allai hynny ddigwydd.
Gallwch warchod eich hunan yn ariannol rhag risg difrod drwy gael yswiriant.
Ar y cyd â Gwasanaethau Yswiriant Thistle rydym yn cynnig cynllun yswiriant cynnwys cartref fforddiadwy. Mae ar gael i denantiaid, lesddeiliaid a pherchnogion tai.
Nid ydym yn yswirio eich eiddo rhag lladrad, tân, fandaliaeth neu bibelli'n byrstio. Mae'n rhaid i chi gymryd eich yswiriant eich hun ar gyfer y costau annisgwyl yma.
Gallech fod yn gyfrifol os oes difrod yn eich cartref. Gallai hyn fod oherwydd damwain, rhywbeth a wnaethoch chi, neu esgeulustod.
Mae'r polisi yswiriant cynnwys cartref gyda Gwasanaethau Yswiriant Thistle yn yswirio eich eiddo rhag tân, llifogydd, lladrad, storm a pheryglon eraill.
Mae'r cynllun yn cynnig amrywiaeth o opsiynau talu fforddiadwy. Mae'r broses gais yn syml:
- Dim gorswm i'w dalu os bydd hawliad; a
- Dim gofynion diogelwch gofynnol.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth neu wneud cais ar-lein heddiw. Gallwch hefyd ffonio 0345 4507288 i wneud cais am sicrwydd yswiriant.