Mae tâl gwasanaeth yn daliad a wnewch yn ychwanegol at eich rhent am wasanaethau a buddion a gaiff eu rhannu neu sy'n gymunol.

Gall taliadau gwasanaeth gynnwys:

  • Goleuadau cymunol
  • Trydan cymunol
  • Glanhau cymunol
  • Glanhau ffenestri cymunol
  • Systemau mynediad drws

Rydym yn codi swm a amcangyfrifir bob wythnos am yr hyn y credwch y bydd gwasanaethau'n ei gostio. Rydym yn cyfrif hyn drwy edrych ar wariant mewn blynyddoedd blaenorol ac amcangyfrif unrhyw gynnydd neu ostyngiad am y flwyddyn i ddod. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn cymharu gwir gost darparu'r gwasanaeth gyda'n hamcangyfrif. Os oedd y wir gost yn:

  • Llai na'r amcangyfrif, ychwanegwn y gwahaniaeth at daliad y flwyddyn nesaf;
  • Mwy na'r amcangyfrif, tynnwn y gwahaniaeth i ffwrdd o daliad y flwyddyn nesaf.

Mae'r taliadau'n amrywio yn seiliedig ar y lleoliad a'r gwasanaethau a gewch, a gallant godi neu ostwng bob blwyddyn.

Ardaloedd cymunol

Fel landlord cyfrifol, mae angen i ni gynnal gwiriadau iechyd a diogelwch rheolaidd i sicrhau fod yr ardaloedd cymunol yn eich cartref yn ddiogel a bod yr allfannau tân yn glir.

Er ein bod wedi buddsoddi'n helaeth yn yr ardaloedd cymunol hyn mewn blynyddoedd diweddar, mae eu cyflwr a'u cynnal a chadw yn amrywio llawer ar draws y ddinas. Maent hefyd angen eu glanhau a'u cynnal a chadw yn rheolaidd.

Oherwydd hyn, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth gofalwr misol ar gyfer archwiliadau diogelwch a hefyd lanhau cyffredinol y blociau.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn rhoi llawer mwy o wybodaeth i ni am y blociau ac unrhyw faterion sy'n effeithio ar y preswylwyr sy'n byw yno. Byddwn felly'n gallu gweithredu'n gyflymach i'w datrys.