Mae'n rhwydd gwneud cais am waith trwsio drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.
Yma gallwch ddweud wrthym beth ydych eisiau i ni ei drwsio.
Fodd bynnag, os oes gennych waith trwsio argyfwng, ffoniwch 01633 381111 ar unwaith.
Rydym yn ystyried mai argyfwng yw digwyddiad lle mae perygl ar unwaith i'ch diogelwch chi neu'ch eiddo.
Gallwch hefyd lenwi ffurflen trwsio ar-lein heb fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.
Gallwch roi adroddiad yma eich bod angen gwaith trwsio, er fod yn rhaid i chi ein ffonio ar unwaith os yw'n waith trwsio argyfwng.