Mae rhanberchnogaeth yn golygu eich bod yn berchen canran o'ch cartref.
Mae'n rhaid i chi dalu rhent i ni ar y canran sydd ar ôl.
Nid ydym yn cynnig unrhyw gyfleoedd rhanberchnogaeth newydd ar hyn o bryd ond mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor ar holl wahanol gynnyrch perchnogaeth cartref.
Os ydych yn rhanberchennog, gall fod angen i chi gysylltu â ni yng nghyswllt:
- Talu rhent
- Gwerthu eich cartref
- Caniatâd ar gyfer gwneud gwaith gwella i'ch cartref
- Gwneud cais i brynu cyfran fwy o'ch cartref
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ranberchnogaeth, llenwch ffurflen ar-lein.