Os oes gennych anabledd a/neu anghenion symudedd, rydym yn ymroddedig i'ch helpu i fyw'n ddiogel ac annibynnol cyhyd ag sy'n rhesymol ac ymarferol bosibl.

Gwnawn hyn drwy ddarparu addasiadau i'ch cartref, mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill fel Cyngor Dinas Casnewydd.

Rydym wedi creu llyfryn ar addasiadau sy'n esbonio'r broses yn fanwl. Mae'r mathau o addasiadau yn amrywiol ac yn ymestyn o adeiladu mawr fel cawodydd mynediad gwastad (addasiadau mawr) i fân elfennau fel canllawiau bach (mân addasiadau).

Rydym wedi addasu cartrefi a all ddod ar gael i'w gosod drwy'r broses arferol. Gwnewch gais drwy Addasiadau Cartref.

Mân addasiadau

Fel arfer gellir gwneud mân addasiadau o fewn dwy wythnos.

Os oes angen i chi ofyn cwestiwn, llenwch ffurflen ar-lein neu gallwch wneud cais am ganiatâd.

Addasiadau mawr

Bydd angen i therapydd galwedigaethol asesu eich anghenion er mwyn gwneud cais am addasiadau mawr.

Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656.

Mae gennym gartrefi presennol wedi'u haddasu ledled Casnewydd a all ddod ar gael i'w gosod drwy'r broses arferol. Gwnewch gais drwy Opsiynau Cartref. Byddwn yn derbyn atgyfeiriad gan y therapydd galwedigaethol, fydd yn dweud wrthym pa addasiadau sydd eu hangen a faint o frys sydd amdanynt. Byddwn yn rhoi ceisiadau mewn trefn blaenoriaeth yn defnyddio'r wybodaeth yma.

Gall addasiadau mawr gymryd mwy o amser yn dibynnu ar faint o waith sydd ei angen a bydd rhai achlysuron pan na fyddwn yn caniatáu'r gwaith.

Ni chaiff pob argymhelliad gan therapydd galwedigaethol ei gymeradwyo. Byddwn bob amser yn esbonio pam a bydd gennych hawl apelio.