Ein pwrpas sy’n ein sbarduno: sef darparu tai mewn cymunedau ble mae pobl eisiau byw. Mae hyn yn cael ei amlinellu yn ein Gweledigaeth 2020 – ein strategaeth. Dyma sy’n ein symbylu.

 

I gyflawni’n gweledigaeth, byddwn yn:

  • Gweithio law yn llaw gyda phreswylwyr i adfywio cymunedau. Rydym yn gwrando, ymgysylltu a gweithredu ar adborth ein preswylwyr.
  • Adeiladu tai fforddiadwy sy’n addas ar gyfer ein cymunedau nawr ac yn y dyfodol.
  • Gweithio gyda phartneriaid ar draws y ddinas i adeiladu momentwm a gwneud mwy o argraff yng Nghasnewydd.
  • Ymdrechu bob amser i fod yn sefydliad cryf ac effeithiol. Gweithio’n galed i ddysgu, tyfu a gwella fel y gallwn wneud mwy gyda’n cymunedau.

Ein preswylwyr yw Casnewydd. Ni yw Casnewydd.

Darllenwch ein Gweledigaeth 2020 cyflawn.