Mae ein cynlluniau tai gwarchod yn darparu cartrefi rhwydd eu trin i bobl hŷn. Maent hefyd yn eu helpu i gadw ffordd annibynnol o fyw.
Mae tai gwarchod yn llety ar gyfer:
- Pobl dros 55 oed a all gynnal lefel uchel o fyw annibynnol.
- Dan 55 oed gydag anabledd, cyn belled ag y gallant gynnal graddfa uchel o fyw annibynnol.
Mae gan pob gynllun gwarchod reolwr cynllun sy'n cadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda phreswylwyr ac yno i roi cefnogaeth pan fo angen. Mae hefyd gysylltiadau uniongyrchol gyda'n canolfan rheoli argyfwng pan nad yw rheolwr y cynllun ar ddyletswydd.
Mae'r cartrefi yn fflatiau a byngalos un a dwy ystafell wely. Mae gan y rhan fwyaf o gynlluniau gyfleusterau cymunol, megis lolfa/ardal deledu, cyfleusterau golchi a gerddi.
Mae'r gweithgareddau'n amrywio rhwng cynlluniau, ond gall gynnwys:
- Bingo
- Boreau coffi
- Swperi pysgod a sglodion
- Ymweliadau dydd
Mae gennym gynlluniau gwarchod yn:
- Caerllion - Cwrt Isfa a Chwrt Westgate
- Dyffryn - Cwrt Aneurin Bevan a Woodside
- Gaer - Cwrt Parc Stelvio
- Llysweri - Cwrt Eschol
- Malpas - Cwrt Whittle
- Shaftesbury - Cwrt Shaftesbury
- St Julian's - Cwrt Afallon a Chwrt yr Eglwys