neb orfod dioddef cam-drin domestig.

Fodd bynnag, mae help ar gael ar gyfer pobl sy'n gwneud hynny.

Beth yw cam-drin domestig?

Unrhyw ymddygiad rheoli, gorfodi, bygythiol, trais neu gam-driniaeth rhwng rhai 16 oed neu drosodd sydd, neu a fu'n bartneriaid personol neu aelodau teulu beth bynnag eu rhywedd neu rywioldeb.

Gall gynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i:

  • Cam-drin corfforol, aflonyddu a stelcian
  • Trais rhywiol, yn cynnwys gweithredoedd rhywiol na chytunir iddynt a thrais
  • Cam-drin emosiynol neu seicolegol, yn cynnwys codi ofn, sarhad llafar, bychanu neu ddiraddio
  • Cam-drin ariannol, yn cynnwys atal arian a help ariannol

Mae Byw Heb Ofn yn llinell gymorth gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol.

Mae'r llinell gymorth am ddim ac mae staff ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gyda gwybodaeth, cefnogaeth ac i gyfeirio at gymorth. Ffoniwch 0808 8010 800 neu ymweld â gwefan Byw Heb Ofn.