Mae cyllidebu yn system lle'r ydych yn cadw trac ar eich costau i weld sut y caiff eich arian ei wario dros gyfnod penodol.

Er enghraifft gallai hyn fod faint a wariwch bob wythnos, bob mis neu bob blwyddyn.

Os ydych yn gwybod ar beth yr ydych yn gwario eich arian, gallwch sicrhau nad ydych yn gwario mwy na chyfanswm incwm eich cartref.

Mae llawer o bobl yn canfod mai'r ffordd orau yw ei rannu rhwng eitemau hanfodol ac eitemau heb fod yn hanfodol.

Eitemau hanfodol yw'r pethau y mae'n rhaid i chi eu talu. Er enghraifft, rhent, treth gyngor, trydan, nwy, dŵr a bwyd.

Gallai eitemau heb fod yn hanfodol gynnwys sigarets, alcohol, cylchgronau, snaciau a thretiau.

Mae gan y Gwasanaeth Cyngor Arian gynllunydd cyllideb sy'n rhad ac am ddim a rhwydd ei ddefnyddio. Gallwn hefyd roi cyngor. Llenwch ffurflen ar-lein.