Mae larwm mwg yn ddyfais rhybuddio sy'n canfod mwg ar gamau cynharaf tân. Mae'n rhoi amser hanfodol i chi fynd allan.

Rydym yn profi ac yn archwilio larymau mwg fel rhan o'n harolwg diogelwch blynyddol.

 

Peidiwch rhoi larwm mwg yn y gegin neu ystafell ymolchi gan y gall fynd i ffwrdd drwy ddamwain.

Os caiff eich larwm ei weithredu gan fatri, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu i osod fersiwn wifrog yn ei le.

Cofiwch brofi'r larwm bob wythnos a pheidio byth â symud yr uned o'r gwaelod.

Byddwch yn ofalus iawn os ydych yn peintio yn ymyl larwm mwg. Peidiwch peintio dros y label dyddiad dod i ben sydd ar du allan yr uned.

Mae'n rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith os nad yw'ch larwm mwg yn gweithio'n iawn. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â ni ar 01633 381111.