Ni yw'r darparydd tai cymdeithasol mwyaf yng Nghasnewydd.
Rydym yn berchen tua 10,000 o gartrefi ar draws y ddinas yn cynnwys, efallai, eich cartref nesaf.
Ein nod yw darparu cartrefi mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt. Rydym yn darparu gwasanaethau i filoedd o bobl ar draws y ddinas ac rydym yn falch o'n llwyddiannau a chyfraniad i fywyd yng Nghasnewydd.
Os dymunwch rentu cartref gennym, bydd angen i chi gofrestru gyda Opsiynau Tai. Mae hysbysebion wythnosol ac mae'n rhaid i chi gael cais ar y gweill gydag Opsiynau Cartref i gynnig am gartref.
Mae angen i gwestiynau am eich cais am gartref fynd i Gartrefi Dinas Casnewydd.
Gallwch wneud hyn drwy:
- Ymweld â'r Orsaf Gwybodaeth (adeilad yr hen orsaf reilffordd)
- Ffonio 01633 656656
- Edrych ar wefan Opsiynau Cartref
Oherwydd y nifer fawr o geisiadau, ni allwn gysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus. Os na chlywsoch am gartref fis ar ôl i'r hysbyseb gau, gallwch dybio na fuoch yn llwyddiannus. Os oes gennych unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau gall hyn effeithio ar eich tenantiaeth, dywedwch wrthym drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein neu lenwi ffurflen ar-lein.