Rydym eisiau i chi fod wrth eich bodd yn byw yn un o'n cartrefi.
Mae ein cymunedau fel arfer yn lle gwych i fyw ynddynt, ond gall fod adegau pan mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt. Gall hyn effeithio ar les ac ymdeimlad diogelwch y gymuned leol.
Os ydych yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yma i helpu. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys niwsans sŵn, tipio anghyfreithlon, gwerthu cyffuriau, aflonyddu a digwyddiadau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol o fathau gwahanol ddigwydd hefyd a rydyn yn teilwra ein cefnogaeth i anghenion pob person.
Gallwn gynnig CCTV, larymau ffenestr, cadwyni drws, larymau personol, benthyg ffôn symudol i recordio niwsans sŵn ac offer monitro sŵn.
Rydym hefyd yn annog pobl i ddefnyddio'r Ap Sŵn i gasglu tystiolaeth.
Mewn amgylchiadau eithafol, gellir defnyddio'r wybodaeth a gasglwn i droi tenantiaid trafferthus o'u cartref. Rydym hefyd yn helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer yr heddlu.
Llenwch ffurflen ar-lein i wneud adroddiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol.