Rydym wedi rhoi awgrymiadau at ei gilydd i helpu atal dŵr llonydd rhag crynhoi yn eich systemau dŵr twym ac oer. Mae hyn fel arfer yn fwy o broblem yn yr haf.
Os ydych yn gadael eich cartref dros nos neu'n mynd i ffwrdd ar wyliau, trowch stop tap y dŵr oer i ffwrdd. Mae hyn yn rheoli'r dŵr sy'n dod i mewn i'ch cartref. Bydd ei droi i ffwrdd yn diogelu rhag llifogydd drwy ddamwain.
Mae stop tap fel arfer wedi ei osod mewn lle isel. Maent fel arfer yn ymyl uned sinc, yn y neuadd fynediad neu cwpwrdd llawr daear. Trowch nhw i ffwrdd mewn cyfeiriad clocwedd.
Pan fyddwch yn dychwelyd adref dylech:
- Troi'r stop tap i ffwrdd mewn cyfeiriad gwrth-glocwedd.
- Rhedeg eich tapiau twym ac oer am tua tair munud i olchi'r system.
- Os ydych yn cael cawod, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael i hyn redeg am dri munud cyn mynd i mewn.
- Gall cen a gwaddod grynhoi o amgylch pennau cawodydd a thapiau. Tynnwch gen o ben cawod o leiaf bob tri mis.
Defnyddiwch liain glân a thynnwr cen addas i lanhau cen a gwaddod o dapiau. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurydd a mesur cymryd mesurau rhagofalu angenrheidiol.
Cofiwch osgoi haint yn eich system dŵr twym neu oer:
- Ei gadw'n lân
- Ei gadw'n symud
- Ei gadw ar y tymheredd cywir - heb fod dan 20 gradd Celsius neu dros 50 gradd Celsius.