Mae'r credyd cynhwysol yn un taliad misol o fudd-daliadau ar gyfer pobl sydd mewn gwaith a hefyd allan o waith.

Mae'n rhaid i chi wneud cais amdano a rheoli eich Credyd Cynhwysol ar-lein. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair i chi i fewngofnodi i'ch dyddlyfr ar-lein.

Dim ond un taliad misol fyddwch yn ei gael ar gyfer eich aelwyd a chaiff ei dalu i'ch cyfrif banc.

 

 

Os oes gennych hawl i gael help gyda'ch rent, caiff hyn ei gynnwys yn y taliad misol. Bydd wedyn yn rhaid i chi dalu'r rhent i ni.

Bydd yn dal i fod angen i chi hawlio rhai budd-daliadau ar wahân, er enghraifft fel gostwng y dreth gyngor a 'thaliad annibyniaeth personol'.

Rydym wedi creu cwestiynau cyffredin ar yr hyn y gallai credyd cynhwysol ei olygu i chi.

Mae llawer o wybodaeth hefyd ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

 

 

Sut i wneud hawliad

I wneud y broses mor gyflym ac mor rhwydd ag sydd modd, gwnewch yn siŵr fod yr wybodaeth ddilynol gennych:

  • Eich rhif yswiriant gwladol a rhif yswiriant gwladol eich partner
  • Eich cod post
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Rhif eich ffôn symudol
  • Cyfeiriad eich landlord - Cartrefi Dinas Casnewydd, Tŷ Nexus, Mission Court, Casnewydd, NP20 2DW
  • Manylion eich rhent - cysylltwch â ni os nad ydych yn sicr o'r swm cywir
  • Dyddiad dechrau eich tenantiaeth - gallwn roi hyn i chi
  • Manylion unrhyw bobl sy'n byw gyda chi ar yr aelwyd. Mae hyn yn cynnwys eu henw, dyddiad geni a'u perthynas i chi.
  • Manylion unrhyw gynilion
  • Manylion unrhyw arian arall a gewch
  • Manylion cyfrif banc; cod didoli a rhif cyfrif

 

 

Rhesymau dros newid

Cewch eich symud i Credyd Cynhwysol os bydd unrhyw newid i'r dilynol:

  • Newidiadau i fudd-dal tai
  • Credyd treth plant
  • Credyd treth gwaith
  • Cymhorthdal incwm
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth (cysylltiedig ag incwm)
  • Lwfans chwilio am swydd (seiliedig ar incwm)

 

Bydd gan y Gwasanaeth Cyngor Arian ddull am ddim ar reoli arian i'ch helpu i drin eich cyllideb hefyd.