Pan fyddwch yn byw yn un o'n cartrefi, byddwn bob amser yn eich cynghori i dalu ychydig bach mwy na'ch rent arferol os gallwch wneud hynny.
Bydd hyn yn helpu i grynhoi credyd ar eich cyfrif y gallwch wedyn ei ddefnyddio ar ddiwrnod glawog neu os yw'ch amgylchiadau'n newid yn annisgwyl.
Bydd y credyd yma yn eich helpu i dalu eich rhent.
Byddwn bob amser yn gwneud yn siŵr nad yw talu'r ychydig bach yn fwy yma yn eich gadael yn brin ac y gallwch ei fforddio.
I wneud taliad heddiw, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein.
Mae'n wirioneddol bwysig eich bod yn talu eich rhent mewn pryd a gofynnwn i chi gadw eich cyfrif mewn credyd.
Gallwn hefyd roi cyngor am drefnu arian a chynilo. Gofynnwch gwestiwn drwy lenwi ffurflen ar-lein.