Ydych chi'n cynllunio gwneud addasiadau i'ch cartref?

Os felly, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar gyfer caniatâd.

Mae hyn er mwyn i ni fedru sicrhau fod ein cartrefi'n parhau'n ddiogel ac yn addas i breswylwyr cyfredol a'r dyfodol fyw ynddynt. Byddwn yn ystyried pob cais i wneud addasiadau ac ni fyddwn yn atal caniatâd yn afresymol.

Gall fod angen i syrfëwr ymweld â chi i archwilio eich cartref cyn y byddwn yn rhoi caniatâd.

Yn dibynnu ar faint y gwaith, gall fod angen i chi hefyd gael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoli adeiladu gan Gyngor Dinas Casnewydd. Bydd angen i chi anfon copïau o'r caniatâd yma atom cyn i chi ddechrau gwaith.

Os ydych yn lesddeiliad, gall fod hefyd angen i chi geisio cymeradwyaeth gan eich benthycydd morgeisiau.

Ar gyfer beth ydw i angen caniatâd?

    • Newid ffenestri/drysau
    • Newid ceginau/ystafelloedd ymolchi
    • Codi erialau/dysglau lloeren
    • Newid cynllun eiddo (er enghraifft, tynnu waliau i lawr)
    • Gwaith trydan newydd
    • Newid systemau gwresogi
    • Trawsnewid atig
    • Codi cyntedd
    • Gosod dreif
    • Newid cynllun eich gardd

    Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth.

    Os ydych yn ansicr, anfonwch fanylion atom a byddwn yn gadael i chi wybod os oes angen caniatâd ai peidio. Os gwneir unrhyw waith heb ganiatâd gall fod yn rhaid i chi ddychwelyd yr eiddo i'w gyflwr gwreiddiol. Fel arall byddem yn gwneud y gwaith a chodi tâl arnoch.

    Mae gennych chwe mis ar ôl i chi roi caniatâd i ddechrau'r gwaith. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i orffen, bydd angen i chi roi copïau i ni o unrhyw ganiatâd arall a gawsoch, er enghraifft ganiatâd cynllunio a rheoli adeiladu. Byddwn hefyd angen gweld copi o unrhyw dystysgrif am waith trydanol, nwy a gosod ffenestri.

    Llenwch ffurflen ar-lein os oes gennych unrhyw gwestiynau.

    Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen gais am addasiadau.