Mae angen i rai o'n preswylwyr dalu ffi gwresogi i ni.
Er enghraifft:
- Preswylwyr sy'n byw yn Dyffryn sy'n derbyn dŵr poeth o'r system wresogi ardal gymunol; a
- Preswylwyr mewn cynlluniau tai gwarchod.
Y ffordd rwyddaf o wneud hyn yw drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.
Gallwch hefyd dalu drwy:
- Debyd uniongyrchol
- Arian neu siec yn defnyddio eich cerdyn Allpay
- Defnyddio eich cerdyn Allpay ar-lein
- Cerdyn debyd neu gredyd
Boeler biomas wedi ennill gwobrau
Mae ein boeler £4 miliwn cyfeillgar i'r amgylchedd, sydd wedi ennill gwobrau, yn gwresogi mwy na 900 o gartrefi ac Ysgol Gynradd Dyffryn.
Wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth gyda British Gas, mae'r boeler biomas yn rhedeg ar sglodion pren ac yn darparu gwres i fwy na 900 o gartrefi ac ysgol. Daw'r sglodion pren a ddefnyddir fel tanwydd ar gyfer y system o goedwig gynaliadwy, a chaiff coeden ifanc ei phlannu yn lle bob coeden a gaiff ei chwympo.
Rydym hefyd wedi gosod mesuryddion Switch2 mewn cartrefi i roi mwy o reolaeth i breswylwyr am gostau eu system gwresogi a dŵr twym.
Llenwch ffurflen ar-lein os oes gennych unrhyw gwestiynau am system wresogi Dyffryn.