Gallwch dalu eich rhent a thaliadau eraill mewn llawer o wahanol ffyrdd. Fodd bynnag, y ffordd rwyddaf yw drwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.
Neu gallwch dalu:
- Drwy ddebyd uniongyrchol - gallwch ddewis y diwrnod a pha mor aml y dymunwch dalu
- Arian neu siec yn defnyddio eich cerdyn Allpay yn unrhyw swyddfa'r post neu siop sy'n dangos logo PayPoint
- Ar-lein - yn defnyddio eich cerdyn Allpay
- Drwy ap Allpay yn defnyddio eich ffôn clyfar
- Cerdyn debyd neu gredyd yn unrhyw un o'n swyddfeydd neu dros y ffôn
- Drwy'r llinell dalu ffôn awtomatig gyda Allpay
- Siec drwy'r post neu yn ein swyddfeydd. Dylai sieciau fod yn daladwy i 'Cartrefi Dinas Casnewydd'.
Mae help a chyngor ar gael os ydych yn ei chael yn anodd i dalu eich rhent.