Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein cynlluniau adfywio.
Mae ein bwrdd wedi cymeradwyo datblygu 1,000 o gartrefi newydd mewn ymateb i'r cynyddol am dai yng Nghasnewydd.
I gyflawni hyn, rydym angen cyfuniad o ddatblygiadau a chynlluniau adfywio newydd.
Rydym yn gweithio ar ddau brif gynllun adfywio yn y ddinas.
Y rhain yw ein rhaglen adfywio £10 miliwn ym Mhilgwenlli a'n cynlluniau miliynau o bunnau i adfywio Ringland.
Rydym wrthi'n edrych ar safleoedd ar draws y ddinas lle gallwn adeiladu mwy o gartrefi a buddsoddi mewn cymunedau, gan fod gennym ymrwymiad i greu mwy o dai fforddiadwy yn y ddinas.
Fel rhan o'n prosiectau datblygu byddwn yn prynu tir ac yn adeiladu cartrefi arno, tra bydd ein gwaith adfywio yn canolbwyntio ar ein cartrefi presennol a thir.
Mae'r holl brosiectau hyn yn ein helpu i gyflawni ein nod o wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.