Mae gennym gynllun adfywio uchelgeisiol a fydd yn costio miliynau o bunnau yn Ringland.

Cafwyd caniatâd cynllunio ar gyfer cam cyntaf y prosiect, gyda gwaith i ddechrau yn yr haf.

Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein diben craidd o greu cartrefi mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt.

Bydd cam cyntaf y prosiect yn canolbwyntio ar ailddatblygu Fferm Cot. Daw â 56 gartrefi newydd i'r ardal, fel sy'n dilyn:

  • 11 fflat un ystafell wely
  • 19 fflat dwy ystafell wely
  • 18 tŷ dwy ystafell wely
  • 8 tŷ tair ystafell wely

Fe wnaethom ddatblygu'r cynlluniau mewn ymateb i adolygiad o'r angen a'r galw tai lleol. Yn ystod y broses ddylunio, fe wnaethom ymgynghori'n helaeth gyda'r gymuned a, lle'n bosibl, rydym wedi cynnwys adborth pobl o fewn cynigion y cynllun.

Rydym wedi penodi Powell Dobson Architects i greu'r prif gynllun ehangach ar gyfer Ringland. Un o'r prif newidiadau fydd dymchwel y ganolfan siopa bresennol. Byddwn yn rhoi canolfan amlycach a mwy hygyrch yn ei le.

Bydd y prosiect yn:

  • Creu mwy o gartrefi fforddiadwy
  • Cynllunio ardaloedd sy'n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag datblygu; a
  • Gwella mynediad i gyfleusterau cymunedol.

Mae datblygiad Fferm Cot yn gychwyn adfywio ehangach ar ardal Ringland. Disgwyliwn i waith adeiladu gychwyn yn haf 2018.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect ar Twitter @NewportCityH a defnyddio #DyfodolRingland