Gallwn eich helpu i wella.

Cynhaliwn gyrsiau hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn i helpu ein preswylwyr a'n cymunedau.

Mae gan rai o'n cyrsiau achrediad ac maent yn rhoi cymhwyster a all eich helpu pan fyddwch yn gwneud cais am swydd. Lle nad oes achrediad, byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb.

Rydym hefyd yn rhedeg academi. Mae hyn yn rhaglen lleoliad gwaith chwe mis ar gyflog gyda ni. Nod yr academi yw cefnogi preswylwyr a phobl ddi-waith arall i gael y profiad a'r sgiliau maent eu hangen i sicrhau cyflogaeth.

Yn y pum mlynedd ers dechrau'r academi:

  • Aeth 35 o'n 39 o hyfforddeion ymlaen i gyflogaeth neu hyfforddiant pellach
  • Roedd gan 20% o'n hyfforddeion anabledd neu anhawster dysgu
  • Roedd 51% o hyfforddeion yn breswylwyr Cartrefi Dinas Casnewydd

Llenwch ffurflen ar-lein os gwelwch yn dda os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr academi.