Hoffech chi gael llais yn y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau?
Gofynnwn i breswylwyr ddod ymlaen a chymryd rhan.
Rydym bob amser yn anelu i adnabod ein preswylwyr, gwybod beth maent ei eisiau a beth maent ei angen.
Defnyddiwn yr hyn a ddywedwch wrthym i lunio gwasanaethau, cartrefi a chymunedau. Mae cysylltu â phreswylwyr yn wirioneddol bwysig i ni. Mewn gwirionedd, mae o fewn ein DNA.
Mae cael eich llais wedi ei glywed yn fwy na dim ond dod i gyfarfod. Gwyddom eich bod yn brysur a rydym yn ymroddedig i ganfod ffyrdd newydd a blaengar i sicrhau eich caiff eich llais ei glywed yn y ffordd orau sy'n gweddu i chi. Beth am ymuno â ni ar Facebook neu Twitter? Mae grŵp Trigolion Ymgysylltiedig NCH ar FB yn rhoi'r cyfle i chi siarad â ni a thrigolion eraill.
Gallwch gymryd rhan mewn llawer o ffyrdd:
- Anfon eich adborth ar ein gwasanaethau. Gallwch wneud hyn unrhyw amser ar-lein yn defnyddio ffurflen ar-lein, drwy lenwi ein harolwg bodlonrwydd neu drwy siarad gyda'n timau pan maent yn mynd o gwmpas eich cymuned
- Dod draw i un o'n sesiynau#siaradam, lle gofynnwn i breswylwyr am eu barn ar ein gwasanaethau a chytuno ar feysydd ar gyfer eu gwella;
- Ymuno â'n panel craffu preswylwyr, sy'n gweithio gyda ni i ddylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau, cartrefi a chymunedau eu cyflwyno'n awr ac yn y dyfodol
Peidiwch colli'r cyfle i ddweud eich barn, cysylltwch heddiw!