Wyddech chi ei bod yn eithaf rhwydd trwsio'r rhan fwyaf o atgyweiriadau o amgylch y cartref heb alw am beiriannydd?

Fodd bynnag, weithiau byddwch angen i ni wneud gwaith trwsio.

Os oes gennych waith trwsio sy'n argyfwng, ffoniwch 01633 381111 ar unwaith. Rydym yn diffinio argyfwng fel digwyddiad lle mae perygl ar unwaith i'ch diogelwch chi, neu'ch eiddo.

Ar gyfer gwaith trwsio lle nad yw amser mor bwysig, gallwch ddweud wrthym eich bod angen gwaith trwsio a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad cyfleus i chi.

Gallwch hefyd ganfod gwybodaeth am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn eich cartref. Er enghraifft, cymhorthion a gwaith addasu, a newidiadau i'ch cartref.