Anfonir biliau dŵr bob blwyddyn tua mis Ebrill.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am y gost newydd ar gyfer y flwyddyn. Gallech fanteisio o ostyngiad os ydych yn talu eich bil blynyddol yn llawn yn syth.
Bydd yn rhaid i chi dalu am gyflenwad a defnydd dŵr i Dŵr Cymru. Eu rhif ffôn yw 0800 052 0145.
Bydd costau dŵr yn amrywio yn dibynnu ar y math o eiddo a nifer y bobl sy'n byw yno. Gallwch ddisgwyl talu unrhyw beth o £6 i £10 yr wythnos.
Awgrym: Os ydych yn ddefnyddiwr isel gallwch ofyn i Dŵr Cymru osod mesurydd, fydd yn golygu mai dim ond yr hyn a ddefnyddiwch y byddwch yn talu. Gall hyn ostwng eich taliadau yn sylweddol.
Gallwch wneud cais ar-lein am fesurydd smart.
Mae gan Dŵr Cymru gronfa cymorth cwsmeriaid i helpu pobl mewn caledi ariannol difrifol. Gallwch wneud cais am help ar eu gwefan.