Rydym eisiau i Gasnewydd fod yn lle y gallwn oll fod yn falch i fyw ynddo.
Yn anffodus, mae tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn ddolur llygad sy'n difetha mannau gwyrdd a hardd ar draws y ddinas. Helpwch ni i sefyll yn ei erbyn.
Rhowch adroddiad cyfrinachol am unrhyw ddigwyddiad a welwch i Gyngor Dinas Casnewydd ar 01633 6566656.
Gallai unrhyw un a geir yn tipio'n anghyfreithlon wynebu dirwy o £20,000 a hyd at chwe mis mewn charchar.
Mae'n rhaid i fusnesau gael gwared â gwastraff drwy gludydd gwastraff sydd ag awdurdod. Mae angen i chi gadw'r nodyn trosglwyddo gwastraff am o leiaf ddwy flynedd.
Os cewch eich sbwriel wedi'i symud a'i fod wedyn yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, gallech chi gael eich dal yn gyfrifol a chael dirwy.
Dyma rai ffyrdd y gallwch gael gwared ag eitemau nad ydych eu heisiau:
Ar gyfer celfi
Gallwch hysbysebu'n rhad ac am ddim ar www.freecycle.org. Gallwch ffonio Ymddiriedolaeth Raven House ar 01633 216855 neu elusennau eraill fel Sefydliad Prydeinig y Galon ar 0808 250 0030.
Ar gyfer eitemau trydan
Gallwch fynd â nhw i safle amwynder dinesig y cyngor ym Maesglas.
Gallwch gysylltu â Footprintmatters2U ar 01633 294000.
Os na fedrir ailddefnyddio'r eitemau ac nad ydynt yn ffitio yn eich bin, peidiwch eu gadael ar y stryd ac efallai gael dirwy.
Gallwch ffonio Cyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656 i drefnu i eitemau mawr gael eu codi am ffi fach. Bydd hyn yn llawer llai na thalu dirwy! Os gwelwch dipio anghyfreithlon, gallwch wneud adroddiad cyfrinachol amdano i'r cyngor drwy ffonio 01633 656656.
Tipio anghyfreithlon ar dir Cartrefi Dinas Casnewydd
Os ydych yn credu mai Cartrefi Dinas Casnewydd sydd piau'r tir y mae'r gwastraff arno, gallwch hefyd wneud adroddiad amdano drwy lenwi ffurflen ar-lein.
Byddwn wedyn yn ymchwilio pwy wnaeth ei achosi cyn ei symud. Mae tipio anghyfreithlon yn torri tenantiaeth a gallai arwain at i bwy bynnag sy'n gyfrifol orfod gadael eu cartref.