Cynigiwn amrywiaeth o opsiynau ar gyfer pobl sy'n edrych am gartref.
Rydym yn berchen mwy na 71% o'r holl dai cymdeithasol yn y ddinas a hefyd yn cynnig cynllun rhanberchnogaeth.
Ein nod yw darparu cartrefi mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt.
Os dymunwch rentu cartref gennym gennych, mae angen i chi gofrestru gyda chynllun Opsiynau Cartref Cyngor Dinas Casnewydd.
Mae hysbysebion wythnosol ac mae'n rhaid i chi fod â chais ar y gweill gyda Opsiynau Cartref i wneud cais am gartref.
Unwaith i chi wneud cais llwyddiannus am gartref, mae angen i chi roi blaendaliad tuag at y rhent. Bydd hefyd angen i chi fod yn barod i symud i'ch cartref newydd.
Cyn gwneud cais, dylech ystyried:
- Sut y byddwch yn symud eich eiddo i'ch cartref newydd
- Bydd angen i chi ddarparu eich eitemau eich hun megis peiriant golchi, ffwrn ac oergell
- Ni ddarperir unrhyw garpedi, ond bydd gorchudd llawr dim-llithro yn yr ystafelloedd ymolchi a cheginau
Unwaith y bydd eich cartref newydd gennych, mae'n bwysig iawn eich bod yn talu eich rhent ar amser a gofynnwn i chi gadw eich cyfrif mewn credyd.