Rydyn ni bob amser yn ceisio darparu’r gwasanaeth gorau bosib i’n preswylwyr.
Ambell waith serch hynny efallai nad ydyn ni’n cwrdd â’ch disgwyliadau. Pan fydd hyn yn digwydd mae gennych chi hawl i gwyno.
Mae cwyn fel arfer yn codi oherwydd:
- Methu cyflwyno gwasanaeth; neu
- Lefel y gwasanaeth hwnnw ddim yn bodloni’ch disgwyliadau
Nid cais fydd hyn am wasanaeth, fel trwsio neu roi gwybod am ymddygiad anghymdeithasol.
Mae tri cham i’n proses gwyno. Rhaid i bob cwyn ddechrau yn y cam cyntaf.
Cam un - Ymchwiliad
Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn mor gyflym ag y gallwn. Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi ei derbyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Unwaith y byddwn wedi ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad ein hymchwiliad ac unrhyw weithredoedd y byddwn yn eu gwneud. Fe wnawn ni hyn cyn gynted ag sy’n bosib a’m nod yw rhoi adroddiad ysgrifenedig llawn ichi o fewn 21 diwrnod.
Cam dau – Adolygiad
Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ymateb a gawsoch, bydd angen i chi roi gwybod i ni. Bydd cyfarwyddydd a/neu aelod o’r bwrdd yn adolygu’ch cwyn. Byddwn yn ymateb eto o fewn 21 diwrnod calendr.
Cam tri – Adolygiad annibynnol
Os ydych chi’n dal yn anhapus, gallwch gysylltu â:
- Yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cymru; neu
- Y Gwasanaeth Ombwdsman Ariannol
Mae’r rhain yn wasanaethau cyfrinachol, di-dâl ac annibynnol. Mae’n annhebygol y bydd yr ombwdsman yn delio gyda chwyn na chafodd ei gwneud yn gyntaf i Gartrefi Dinas Casnewydd.
Sut gallaf i wneud cwyn?
Y ffordd rwyddaf yw llenwi ffurflen ar-lein.