Os ydych yn ddigartref neu dan fygythiad dod yn ddigartref, mae angen i chi gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd ar 01633 656656.
Gallwch hefyd ymweld â'r Orsaf Gwybodaeth yng nghanol y ddinas.
Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar y cyngor i weld os gall eich helpu. Os cewch eich bygwth gyda diweithdra o fewn y 56 diwrnod nesaf, bydd yn gweithio gyda chi i gymryd pob cam rhesymol i atal digartrefedd rhag digwydd.
Gallai hyn olygu gweithio gyda chi i gadw eich cartref presennol neu ddod o hyd i lety arall.
Os ydych eisoes yn ddigartref, gall y cyngor gymryd pob cam rhesymol i ganfod llety arall i chi, gan eich helpu am hyd at 56 diwrnod ar ôl i chi ddod yn ddigartref.
I gael mwy o wybodaeth am Opsiynau Cartref, ffoniwch 01633 656656 neu ymweld â'u gwefan.