ddwysiad arwain at lwydni yn eich cartref
Mae'n fwyaf cyffredin rhwng mis Hydref a mis Ebrill pan mae'n oerach tu fas i'ch cartref na thu mewn. Gallwch ostwng cyddwysiad rhag digwydd yn eich cartref drwy agor ychydig ar ffenestri i gadw'r aer yn cylchredeg. Ni fyddwch yn colli llawer o wres.
Mae achosion cyddwysiad yn cynnwys:
- Coginio
- Golchi a sychu dillad
- Cymryd bath neu gawod
Sut i osgoi cyddwysiad
- Cau drysau pan fyddwch yn coginio, golchi dillad, cymryd bath neu gawod.
- Bob amser ddefnyddio'r ffaniau echdynnu a ddarparwyd.
- Agor ffenestri ystafelloedd gwely am 20-30 munud bob bore i alluogi aer oerach, sychach o'r tu allan i gymryd lle aer gynnes, laith.
- Twymo digonol ym mhob ystafell yn eich cartref.
- Gwneud yn siŵr fod fentiau diferu ar eich ffenestri'n aros ar agor.
- Peidio sychu dillad gwlyb dros reiddiaduron.
- Gwneud yn siŵr fod gan eich sychwr taflu fentiau allanol.
Llwydni
Os dewch o hyd i lwydni yn eich cartref, mae'n siŵr y gallech fedru gwneud eich hun heb help proffesiynol.
Dyma ychydig o gyngor:
- Symudwch unrhyw ddeunyddiau yr effeithiwyd yn wael arnynt o'r ardal (er enghraifft, taflu unrhyw bapurau newydd neu gylchgronau llaith).
- Gwisgo menig a diogelu eich carped/llawr.
- Glanhau waliau a fframiau ffenestr gyda hylif cannu gwan neu olchiad ffyngladdwr
- Gellir ailbeintio waliau gyda phaent ffyngladdwr
- Dylid sych-lanhau dillad neu ddeunyddiau a golchi carpedi. Peidiwch brwsio llwydni gan y bydd hynny'n gwneud y broblem yn waeth.
Llenwch ffurflen ar-lein os na fedrwch ddatrys problem cyddwysiad neu lwydni yn eich cartref.