Rydym yn cynnal arolygiadau blynyddol ar ddiogelwch nwy i wirio fod eich cyfarpar nwy yn ddiogel ac yn rhedeg yn effeithiol.

Ar gyfer eich diogelwch, mae'n hanfodol eich bod yn gadael i ni fynd i fewn i'ch cartref ar gyfer gwaith gosod trydanol ac archwilio diogelwch nwy. Mae'n bwysig i chi wybod y byddwn yn ystyried gweithredu cyfreithlon os nad ydych yn caniatáu i ni gael mynediad, ar ôl dau ymgais i gynnal archwiliad.

Mae'n rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf.

 

 

Yn ystod yr archwiliad blynyddol ar ddiogelwch nwy, dim ond cynnal archwiliad gweledol a wnawn ar ffwrn nwy y mae preswylydd yn berchennog arni. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau fod yr offer yn gweithio ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n ddiogel gan beiriannydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.

Ewch i wefan Gas Safe i ddod o hyd i beiriannydd sydd wedi cofrestru gyda Gas Safe.