Mae'r cyngor a gwybodaeth ar gael i chi wrth drin dyled yn wahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Mae'r Gwasanaeth Cyngor Arian wedi creu fideo defnyddiol:

Ble allaf gael help?

Siaradwch gyda ni. Ffoniwch 01633 381111 rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 9am-5pm, neu ofyn cwestiwn i ni ar ffurflen ar-lein. Mae gennym hefyd gyngor ar y wefan.

Mae llawer o asiantaethau allanol a all helpu. Mae hyn yn cynnwys:

Sgwrs Gwe Cyngor Dinasyddion

Mae Cyngor Dinasyddion yn cynnig cyngor rhad ac am ddim, annibynnol, cyfrinachol a di-duedd ar ddyledion drwy eu gwasanaeth sgwrs gwe.

Elusen Dyled StepChange

0800 138 1111

Mae StepChange Debt Remedy yn rhoi cyngor arbenigol, cymorth cyllideb a datrysiadau i'ch helpu i drin eich dyledion.

National Debtline

0800 622 61 51

Mae'r National Debtline yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar-lein drwy ei declun My Money Steps a'i ganllawiau gwefan, dalenni ffeithiau a llythyrau sampl.

PayPlan

0800 280 2816

Mae PayPlan yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar ddyledion i'ch galluogi i gymryd gafael ar eich arian a chanolbwyntio ar fyw eto.

Sefydliad Cyngor Dyled

0800 622 61 51

Mae'r Sefydliad Cyngor Dyled yn elusen genedlaethol yn rhoi cyngor ac addysg am ddyledion sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n pryderu am ddyled.