Rydym wedi prynu 10 erw o dir yn Hen Ddoc y Dref.

Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau adfywio uchelgeisiol ar gyfer y ddinas a gallai ein gweld yn adeiladu mwy na 150 o gartrefi.

Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni ein diben craidd o greu cartrefi mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt.

Mae'r safle, sydd rhwng Ffordd Brynbuga a Heol Ddwyreiniol y Dociau yn rhan o gynllun datblygu Hen Ddoc y Dref. Dyma'r darn cyntaf mawr o dir i ni brynu ac mae ganddo eisoes ganiatâd cynllunio ar gyfer cartrefi, siopau, hamdden a gofod swyddfa.

Mae safle Hen Ddoc y Dref yn ddarn pwysig o dir yng nghanol y ddinas. Mae'n dangos ein huchelgais o adfywio cymdeithasol a ffisegol yn ne ddwyrain Cymru.

Cyn i ni benderfynu sut y byddwn yn defnyddio'r tir, byddwn yn ymgynghori'n helaeth gyda'n rhanddeiliaid. Mae hyn er mwyn sicrhau'r datblygiad y mae'r ddinas yma ei angen.

Mae gan safle Hen Ddoc y Dref botensial enfawr. Rydym yn hyderus y bydd y prosiect hwn yn adfywio'r ardal yn llwyr. Mae ein hymrwymiad ariannol mawr yn dyst o hyn ac yn dangos ein huchelgeisiau ar y dyfodol.

Yn ystod 2018 byddwn yn cynnal ymgynghoriadau prif gynllun gyda'r gymuned a rhanddeiliaid. Disgwyliwn gyflwyno cais cynllunio yn 2019.