Mynegodd mwy na 35 o bobl ddiddordeb mewn prentisiaethau gyda chynllun adfywio Pilgwenlli yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd yr hyb cymunedol newydd ym Milgwenlli ei agor yn swyddogol gan Carl Sargeant, Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, cyn y cynhaliwyd sesiynau galw heibio ar gyfer preswylwyr lleol drwy gydol y prynhawn. Y nod oedd galluogi preswylwyr lleol i gael mwy o wybodaeth am brentisiaethau a sut y gallant ddefnyddio'r hyb ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Dywedodd Ceri Doyle, y prif swyddog gweithredol: "Mae cyflogadwyedd yn rhan sylfaenol o'n dull adfywio, a dyna pam ein bod wedi cynnwys gwerth 300 wythnos o brentisiaethau yn y contract adfywio.

"Rydym eisiau i bobl leol fanteisio i'r eithaf ar hyn a drwy gydol y dydd ymwelodd pobl â'r hyb i gael mwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym Mhilgwenlli."

Roedd y digwyddiad cymunedol hefyd yn nodi trosglwyddo'r safle yn swyddogol o Gartrefi Dinas Casnewydd i'r contractwyr United Living. Mae cynllun adfywio £7.9 miliwn Cartrefi Dinas Casnewydd eisoes wedi gweld yr hen hyb cymunedol yn Raglan Court yn cael ei ddymchwel, yn ogystal â nifer o garejys yn yr ardal.

Caiff bloc tri llawr o chwech o fflatiau un ystafell wely a dau dŷ tair ystafell wely eu hadeiladu, yn ogystal a hyb cymunedol newydd.

Dywedodd Nicola Somerville, cadeirydd bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd: "Rydym yn anelu i gyflenwi rhywbeth sylweddol fydd yn gatalydd ar gyfer newid calonnau a meddyliau. Fel cymdeithas tai ni allwn, ar ben ein hunain, roi'r dechrau gorau i blant mewn bywyd. Fodd bynnag, gallwn weithio gyda phartneriaid i helpu cyflawni hyn.

"Rydym eisiau i'n buddsoddiad £7.9 miliwn helpu ailddiffinio naratif Pilgwenlli, gyda chefnogaeth ac ymrwymiad ein partneriaid yng Nghasnewydd, ardal Gwent yn ehangach a'r llywodraeth."

Bydd yr hyb dros dro newydd yn rhoi ardal i breswylwyr ar gyfer cymdeithasu, defnyddio cyfrifiaduron a chodi unrhyw broblemau sydd ganddynt nes bydd hyb pwrpasol newydd yn agor ar ddiwedd y flwyddyn.

Dywedodd Nicole Barnes, rheolydd datblygu cymunedol (Cymru a De Orllewin Lloegr) United Living: "Mae'r hyb cymunedol newydd ar stad Pilgwenlli yn garreg filltir gyffrous ar gyfer cynllun adfywio sylweddol - un o'r mwyaf o'i fath yng Nghymru. Wrth i'r prosiect fynd rhagddo'n llawn, bydd yn rhoi lle diogel ar gyfer digwyddiadau, clybiau a chyfarfodydd ac mae ar gael i bawb ei ddefnyddio.

"Dyma un o'r camau cyntaf a gymerwyd i adfywio'r ardal hanesyddol yma o Gasnewydd. Bu'r digwyddiad lansio ei hunan yn gyfle gwych i'n tîm gwrdd gyda'r gymuned a deall eu disgwyliadau.

"Maes o law, rydym edrychwn ymlaen at gysylltu'n fwy agos gyda phreswylwyr lleol a'r gymuned a dod â nifer o gyfleoedd iddynt yn cynnwys prentisiaethau, hyfforddiant a swyddi gwag ar draws y safle."

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect, hoffwch Newport CityH ar Facebook neu ddilyn @NewportCityH ar Twitter.