Rydym bob amser yn gwrando ar yr hyn a ddywedwch wrthym am sut y gallwn wella.

I'n helpu i wella'r gwasanaethau y dywedwch wrthym sydd bwysicaf i chi, rydym wedi dod â'n timau ymgysylltu â phreswylwyr a gwasanaeth cwsmeriaid at ei gilydd i ffurfio tîm newydd profiad cwsmeriaid.

Gwyddom o'ch adborth eich bod eisiau gwasanaethau cyflym a hygyrch.

Rydym eisiau i ni ei chael yn iawn y tro cyntaf a'ch trin chi, eich teulu a'ch cartref gyda'r gofal a'r parch a haeddwch.

Y newyddion da yw mai dyna'n union yr hyn rydym ni eisiau hefyd! Dyma ni yn rhoi'r preswylydd wrth galon ein holl waith.

Yn draddodiadol mae gwasanaeth cwsmeriaid am sut yr helpwn pan aiff pethau o chwith, a bod yn gwrtais a pharod i gynorthwyo pryd bynnag yr ydych yn cysylltu gyda ni.

Fodd bynnag, mae profiad cwsmeriaid ynglŷn â llawer mwy na hynny.

Mae profiad cwsmeriaid am sut mae'n teimlo i wneud busnes gyda ni drwy gydol eich perthynas gyda Cartrefi Dinas Casnewydd. Gallai hyn fod pan fyddwch yn cynnig gyntaf ar gartref i'ch 50fed pen-blwydd fel preswylydd.

Gwyddom y bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, felly bydd y tîm profiad cwsmeriaid bob amser yn ymgysylltu gyda chi i adeiladu dealltwriaeth ddofn o'r hyn sydd bwysicaf i chi. Bydd wedyn yn gweithio gyda thimau eraill ar draws y busnes i wneud i hynny ddigwydd.

I gymryd rhan, cysylltwch â 01633 381111 neu enquiries@newportcityhomes.com