Mae gan gynllun adfywio £7.9 miliwn Pilgwenlli Brentis Swyddog Cyswllt Preswylwyr newydd.

Mae Andrew Young, sy'n byw ym Mhilgwenlli ac a fu'n gweithio'n flaenorol ar ddatblygiad Rhodfa'r Brodyr wedi dechrau ar y swydd newydd gyda United Living, sy'n cyflenwi'r cynllun ar ran Cartrefi Dinas Casnewydd.

Caiff naw o fflatiau un ystafell wely a dau gartref tair ystafell wely eu hadeiladu.

Byddant hefyd yn rhoi cladin newydd ar gartrefi presennol, yn ogystal â gosod hyb cymunedol.

Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn brif flaenoriaeth gan y cafodd llawer o ardaloedd yr oedd ymddygiad gwael yn effeithio arnynt eu dymchwel ac y caiff dwy ardal newydd o ofod agored eu creu.

"Mae'r adfywio yn bendant yn beth cadarnhaol, gallwch eisoes weld y gymuned yn dod yn fwy cydlynol," esboniodd Andrew. "Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr ardal yn gyffrous iawn. Mae'r gymuned hefyd yn gallu teimlo gwahaniaeth yn barod.

"Mae gan Pil ei chyfran deg o broblemau fel pobman arall ym Mhrydain, ond mae gennym ni fel preswylwyr ysbryd cymunedol gwell. Mae'r prosiect adfywio yma'n wirioneddol yn rhoi cyfle i Pil gyrraedd ei botensial llawn."

Disgwylir y caiff y gwaith ei gwblhau erbyn gaeaf 2018.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect, dilynwch ni ar Twitter @NewporcityH neu hoffi NewportcityH ar Facebook.