Mae preswylwyr Shaftesbury Court wedi datblygu gardd gymunedol gyda help Cartrefi Dinas Casnewydd.

Fe wnaethant ddefnyddio'r arian i baratoi'r tir, prynu pridd, bylbiau, hadau, offer gardd a sied fach, a thŷ gwydr.

Dywedodd Alan Frowen, un o'r preswylwyr: "Fe wnaethom ddechrau'r ardd gymunedol tua dwy flynedd yn ôl Mae'r preswylwyr yn ei mwynhau'n fawr, gan y gallant brynu eu ffrwythau a'u llysiau'n rhatach nag unrhyw le arall".

Mae'r ardd wedi rhoi cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd, mwynhau garddio a chreu rhywbeth y gall pawb gymryd rhan ynddo.

Ychwanegodd Sharon Holbrook, rheolwr y rhaglen: "Mae'r grant gan Cartrefi Dinas Casnewydd wedi galluogi preswylwyr i fwynhau cwmni ei gilydd a chael hwyl.

"Fe wnaethom dyfu llysiau a thatws y lynedd, ac eleni rydym yn tyfu perlysiau a blodau i'w gwneud yn dlws iawn.

"Cafodd effaith cadarnhaol iawn ac mae'n annog cyswllt rhwng ein preswylwyr a'r gymuned yn ehangach. Mae'n rhoi canolbwynt ar gyfer y preswylwyr sy'n byw yno."