Mae Cymdeithas Tai Cartrefi Dinas Casnewydd wedi penodi datblygwr cartrefi partneriaeth Lovell ar gyfer y cam cyntaf o raglen adfywio eang gwerth £7.5 miliwn ar gyfer adfywio ardal Ringland yng Nghasnewydd.

Bydd Lovell yn dechrau gweithio ym mis Medi ar yr ailddatblygu yn ystâd Cot Farm, a fydd yn dod â 56 o gartrefi a fflatiau modern ar gyfer rhent cymdeithasol i'r ardal.

Bydd y cynllun dylunio ac adeiladu yn creu 26 o dai modern dwy a thair ystafell wely a 30 o fflatiau un a dwy ystafell wely ar dir yn Rhodfa Fferm Hendre. Mae nifer o fflatiau deulawr presennol - sy'n wag - yn cael eu dymchwel i wneud lle iddynt. I fod i’w gwblhau ym mis Rhagfyr 2019, y cynllun yw'r elfen gyntaf mewn trawsnewidiad ehangach o Ringland, sy'n dilyn ymgynghoriadau helaeth gyda'r gymuned leol.

Meddai Cadeirydd y Bwrdd, Nicola Somerville: "Rydym am sicrhau bod hwn yn gymuned lle mae pobl eisiau byw. Rydym am ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, dylunio ardaloedd sy'n galluogi i ni waredu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gwella mynediad at gyfleusterau cymunedol.

"Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion y gymuned, rydym yn parhau i weithio gyda grŵp llywio o drigolion a manwerthwyr lleol. Mae hyn yn ein helpu i ddarparu nid yn unig yr hyn y mae'r gymuned ei heisiau, ond yr hyn sydd ei hangen arni.

"Mae ein hymrwymiad ariannol sylweddol i Ringland yn dyst i'n huchelgais i adeiladu tai fforddiadwy sy'n addas i gymunedau nawr ac yn y dyfodol." 

"Rydym yn falch o gael ein dewis i helpu cychwyn y rhaglen adfywio gynhwysfawr hon ac yn arbennig o falch o fod yn gweithio am y tro cyntaf mewn partneriaeth â Chartrefi Dinas Casnewydd," meddai Kate Rees, rheolwr gyfarwyddwr Lovell. "Mae ein tîm yn dod â phrofiad cryf mewn adfywio ystadau i'r trawsnewidiad mawr hwn yn ardal Ringland. Yn ogystal â'r cartrefi a'r fflatiau newydd, bydd rhan bwysig o'r cynllun yn cynnwys cynnig ystod o gyfleoedd gwaith a chyflogaeth i bobl sy'n byw yn yr ardal." Bydd Lovell yn darparu lleoliadau prentis ar y prosiect Cot Farm yn ogystal â swyddi a chyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, a lleoliadau ar gyfer preswylwyr di-waith ac eraill yn y gymuned leol.

Mae Cartrefi Dinas Casnewydd wedi penodi Penseiri Powell Dobson i greu'r prif gynllun sy'n gosod allan y rhaglen helaeth ar gyfer adfywio Ringland. Yn ogystal â chreu tai fforddiadwy newydd yn lleol, mae'r rhaglen yn cynnwys adleoli canolfan siopa bresennol Ringland, i'w wneud yn fwy modern a mwy hygyrch