Cynhelir cwrs deg diwrnod ar gyfer darpar entrepreneuriaid ym Marchnad Casnewydd ar 4-15 Mehefin.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau a sefydliadau tai lleol wedi cydweithio â hyfforddwyr blaenllaw'r DU ym maes meicro-gychwyn i ddod ag Ysgol Fusnes 'PopUp' i'r ddinas.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim wedi'i gynllunio i helpu pobl sydd â syniadau busnes i ddod o hyd i'r hyder i roi cynnig ar eu syniadau, a gwneud arian yn gwneud yr hyn maen nhw'n caru gwneud.
Mae'n rhad ac am ddim i fynychu, ac mae croeso i bobl o bob oed a chefndir sy'n meddwl am hunangyflogaeth.
Mae digwyddiadau wedi'u cynllunio er mwyn cael syniadau busnes ar waith yn gyflym.
Y llynedd, mynychodd dros 100 o bobl y gweithdai, a ariannwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.popupbusinessschool.co.uk/newport