Mae’r gwaith bron wedi gorffen ar ein datblygiad Glen Court £1.6 miliwn ym Metws.

Rydym yn adeiladu 11 cartref teuluol a byngalo i bobl sydd ag anabledd yng Nglen Court, Betws.

Bydd y cartrefi teuluol newydd yn cynnwys naw gartref dwy ystafell a dau gartref tair ystafell.

Dwedodd ein rheolwr adfywiad Rachel George:“Ein diben craidd yn Newport City Homes yw creu cartrefi mewn cymunedau lle bod pobl eisiau byw.

“Y rhain fydd ein cartrefi cyntaf sydd wedi’u cwblhau ers i ni gael ein creu yn 2009. Mae’n foment nodedig i ni, gan fod ein datblygiad Glen Court yn dangos ein huchelgais i adeiladu cartrefi fforddiadwy sy’n addas i gymunedau nawr ac yn y dyfodol.”

P&P Buildings sy’n darparu'r gwaith ar ein cyfer.Roedd y safle wedi’i feddiannu gan gynllun tai â chymorth Glen Court.  Cafodd hwn ei ddymchwel yn 2010.