Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans wedi cyhoeddi £3 miliwn o gyllid cyfalaf i alluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i osod cladin newydd ar dri bloc uchel yn y ddinas.

Y tri adeilad preswyl uchel yw'r unig rai yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi'u cadarnhau'n adeiladau sydd â systemau Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) sy'n cyfateb i'r hyn sydd wedi profi profion hylosgedd ar raddfa fawr.

Dywedodd Rebecca Evans: "Ers y drychineb yn Nhŵr Grenfell y llynedd, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag awdurdodau lleol, perchnogion adeiladau, rheolwyr, y sector preifat a'r trydydd sector ac eraill i greu darlun cyflawn a manwl o'r sefyllfa ynghylch yr adeiladau preswyl uchel sydd yng Nghymru a hefyd i sicrhau bod perchnogion ac asiantiaid yn ymwybodol o ganllawiau'r Llywodraeth ar ddiogelwch a'u bod yn cymryd y camau angenrheidiol.

"Fe wnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd ymateb yn sydyn i ddiogelu preswylwyr drwy roi nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle gan gynnwys system chwistrellu. Ein tro yw hi nawr i'w cefnogi drwy roi'r buddsoddiad hwn, a fydd yn galluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i barhau â'u hymrwymiad i ddiogelwch preswylwyr heb gyfaddawdu ar eu cynlluniau hollbwysig i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y ddinas."

Wrth groesawu'r newyddion dywedodd Nicola Somerville, cadeirydd bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd: "Rydym wrth ein bodd fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r arian hyn i ni ac y cafodd ein llais ei glywed.

"Mae'r Gweinidog wedi gwrando ar ein pryderon ni a phryderon Casnewydd. Hoffwn ei chanmol am weithio mewn partneriaeth i sicrhau nad yw ein gwaith ar wneud y blociau uchel hyd yn oed yn fwy diogel yn effeithio ar gynlluniau hanfodol eraill yng Nghasnewydd. Mae hon yn enghraifft ardderchog o weithio partneriaeth a gweithio cyhoeddus ystwyth ar waith.

"Mae'n adeiladu ar y gwaith trylwyr gyda ffocws ar y preswylwyr a wnaed eisoes yn y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys gosod chwistrellwyr ym mhob un o'r blociau uchel.

"Ers y diwrnod ofnadwy hwnnw fis Mehefin diwethaf, buom yn glir am ein diben i hysbysu a rhoi sicrwydd i'n preswylwyr, a bu eu hymateb yn gadarnhaol.

"Mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallwn barhau i ganolbwyntio ein adnoddau ar sicrhau cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddynt, gan gadw'r preswylwyr wrth galon ein holl waith."