Cafodd porth newydd ar y we ei lansio yng Nghasnewydd heddiw i helpu landlordiaid cymdeithasau tai i wella eu hymateb i gam-drin domestig ar gyfer eu preswylwyr.
Mae prosiect Byw Heb Ofn yn grŵp o gymdeithasau tai yn ardal Gwent sy'n gweithio i atal cam-drin domestig a chefnogi tenantiaid a gweithwyr cyflogedig y mae hyn yn effeithio arnynt.
Fel rhan o hyn, lansiodd y grŵp borth newydd ar y we mewn cynhadledd yn Rodney Parade heddiw. Er ei fod wedi'i anelu at staff sy'n gweithio gyda phobl sy'n profi cam-drin domestig, gall unrhyw un ei ddefnyddio.
Esboniodd Bronwen Lloyd, cyfarwyddydd adfywio cymunedol Tai Siarter: "Fel partneriaeth o 12 landlord cymdeithasol rydym wedi datblygu adnodd ar-lein ar gyfer staff sy'n gweithio gyda phobl sy'n profi cam-drin domestig. Er bod ffocws hyn ar Gwent i ddechrau, mae'n adnodd am ddim y gellir ei ddefnyddio gan bartneriaid ledled Cymru.
"Mae'r dull gweithredu aml-bartneriaeth yma yn ein helpu i wella bywyd a'r canlyniadau i bobl sy'n profi cam-drin domestig, gyda'r brif nod o anelu i helpu unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig i fyw heb ofn."
Mae Byw Heb Ofn, a sefydlwyd yn 2015, yn bartneriaeth rhwng yr holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Ngwent. Roedd cynhadledd heddiw yng Nghasnewydd yn cynnwys siaradwyr gwadd yn cynnwys Julie James AC, prif weithredydd Cymorth i Fenywod Cymru, Eleri Butler a'r Ditectif Brif Arolygydd Stephen Maloney o Heddlu Gwent.
Dywedodd Carolyn Prothero, rheolydd gwasanaethau tai Cartrefi Dinas Casnewydd: "Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef cam-drin domestig. Fodd bynnag, mae help ar gael i bobl sy'n dioddef.
"Bydd y pecyn cymorth yma yn ein helpu ni a'n partneriaid i wella ein hymateb i gefnogi dioddefwyr.
"Mae Byw Heb Ofn yn seiliedig ar y gred na ddylai unrhyw un fyw mewn ofn trais neu gamdriniaeth gan gymar, partner, cyn gymar neu bartner, neu aelod arall o'u haelwyd.
"Byddwn yn parhau i gyfeirio dioddefwyr a'u teuluoedd i'r heddlu ac asiantaethau cymorth proffesiynol perthnasol. Byddwn hefyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r heddlu, Cymorth i Fenywod ac asiantaethau cam-drin domestig."
Os ydych yn profi cam-drin domestig, mae help a chefnogaeth ar gael 24 yr awr, saith diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 0808 8010 800 neu ymweld â gwefan Byw Heb Ofn.