Mae mesuryddion deallus yn newid sut mae pobl yn deall y ffordd y defnyddiant eu nwy a thrydan.

Mae'r llywodraeth eisiau i bob cartref gael mesurydd deallus erbyn 2020. P'un ai oes gennych fesurydd blaendalu ar hyn o bryd neu'n talu am eich ynni bob mis drwy ddebyd uniongyrchol, bydd eich darparydd ynni yn cynnig mesurydd deallus i chi.

Mae mesurydd deallus yn cysylltu gyda'r rhyngrwyd, fel y gall 'siarad' gyda'ch darparydd ynni, sy'n golygu na fydd byth raid i chi anfon darlleniad mesurydd eto.

Ni fyddwch yn cael biliau amcangyfrif, gan y bydd eich darparydd bob amser yn gwybod yn union faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio. Unwaith y bydd gennych fesurydd deallus, dim ond am yr hyn yr ydych yn ei ddefnyddio y byddwch yn ei dalu. Gall y mesurydd hefyd eich helpu i gadw llygad ar eich defnydd, gweld lle medrech arbed arian a defnyddio'r wybodaeth honno i ostwng eich biliau ynni.

Mae'r llywodraeth yn credu y gallai'r wybodaeth hon eich helpu i dorri tua £26 y flwyddyn oddi ar eich biliau ynni erbyn 2020, a chymaint â £43 y flwyddyn erbyn 2030.

Mae Ofgem hefyd wedi cyflwyno rheolau am ddiogelwch gwybodaeth a diogelu data, gan sicrhau fod pob darparydd ynni'n cadw'r wybodaeth o'r mesuryddion deallus yn ddiogel.

Bydd eich cyflenwr yn gosod mesurydd deallus yn eich cartref yn hollol rad ac am ddim ac nid ydych angen caniatâd gan Cartrefi Dinas Casnewydd ar gyfer eu gosod.

Os oes gennych fwy o gwestiynau, llenwch ffurflen ar-lein.