Mae Cissie Beale, sy'n aelod o'n Bwrdd, ar y rhestr fer ar gyfer teitl 'Pencampwr Tenantiaid y Flwyddyn' yng ngwobrau 24 Housing eleni.

Bydd llawer ohonoch yn gwybod y bu Cissie yn aelod o'r bwrdd ers diwrnod cyntaf bodolaeth NCH, ond efallai na wyddoch y bu ganddi ran yn ei greu.

Fel tenant gomisiynydd, mae Cissie wedi rhoi ei hamser hamdden i helpu eraill a sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer y ddinas a'i chymunedau.

Wedi'i geni a'i magu yng Nghasnewydd, mae Cissie wedi ymroi ei hamser hamdden i helpu eraill a sicrhau newid cadarnhaol ar gyfer y ddinas a'i chymunedau.

Bu Cissie bob amser yn angerddol wrth greu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc. Ei syniad hi oedd cynnig cyfleoedd drwy gynllun prentisiaeth, a chafodd ein hacademi ei sefydlu. Mae Cissie yn glir pam ei bod yn gweithio mor galed i roi'n ôl i gymunedau Casnewydd.

"Drwy wirfoddoli a gwneud yr holl bethau eraill, rwy'n talu fy nyled yn ôl."

Byddwn yn clywed os caiff Cissie ei choroni'n bencampwr tenantiaid ar 12 Hydref mewn seremoni wobrwyo yn Coventry. Y naill ffordd neu'r llall, mae Cissie bob amser ar y brig i ni.