Cynhelir digwyddiad elusen 'helpu’r digartref' yn Ringland ar Ddydd Iau, 31 Mai.

Fe'i trefnir gan UNITY, fforwm ieuenctid a gefnogir gan Gartrefi Dinas Casnewydd a Charter Housing, a bydd yn codi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd, Eden Gate.

Cynhelir y digwyddiad y tu ôl i Ganolfan Siopa Ringland ar y glaswellt rhwng 12.30pm-4.30pm. Bydd yn cynnwys ffair, paentio wynebau, stondinau, gweithgareddau chwaraeon a stondinau gwybodaeth.

Dywedodd swyddog perthynas cymunedol ac arweinydd UNITY, Wesley Ford: "Mae hyn yn addo bod yn brynhawn gwych o hwyl i'r teulu, gan hefyd helpu codi arian i elusen leol.  Mae UNITY wedi bod yn gweithio'n agos gydag Eden Gate dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n agos iawn at galonnau'r aelodau."

Ychwanegodd arweinydd UNITY, Chelsea Crook, sydd wedi bod wrth wraidd y prosiect ers y dechrau:  "Mae Eden Gate yn helpu pobl ddigartref yn ddiflino ledled y ddinas. Mae'n cyflawni gwaith hollbwysig, ac mae ein haelodau UNITY wedi gweld eu hun yr ymroddiad hwn wrth i ni gyflawni’r gwaith hynny.

"Y diwrnod hwyl hwn yw'r fenter ddiweddaraf y mae'r UNITY wedi ei wneud er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd yn y ddinas.  Rydym yn gobeithio y bydd yn dod â'r gymuned yn agosach at ei gilydd ac yn helpu gwneud gwahaniaeth i'r rhai sydd mewn angen.  Dewch i'n gweld!"

Mae UNITY yn grŵp o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, sy’n helpu rhoi llais i bobl ifanc a gwneud gwahaniaeth mewn tai a'u cymunedau ar draws Casnewydd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chartrefi Dinas Casnewydd ar 01633 381111 neu Charter Housing ar 01633 212375.