Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cyflwynodd Cartrefi Dinas Casnewydd samplau o dri bloc tŵr yn Milton Court, Hillview a Greenwood yng Nghasnewydd ar gyfer eu profi yn unol â chanllawiau'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yr wythnos ddiwethaf.

 

Dywedodd Ceri Doyle, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Dinas Casnewydd: "Mae diogelwch preswylwyr bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Cartrefi Dinas Casnewydd, a bydd yn parhau felly. Roeddem yn siomedig i ddysgu am ganlyniadau y prawf cladin, ein ffocws nawr yw rhoi sicrwydd i'n preswylwyr a gwneud yn siŵr eu bod yn teimlo'n ddiogel.

"Mae gennym bresenoldeb arbennig ym mhob un o'n blociau tŵr, ynghyd â swyddogion diogelwch tân, fel y gall preswylwyr siarad gyda rhywun os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu bryderon.

"Mae gennym asesiadau cadarn a chyfredol ar risg tân ar ein blociau tŵr a rydym eisoes wedi mabwysiadu'r holl fesurau ychwanegol perthnasol ar ddiogelwch tân a gyhoeddodd y llywodraeth. Rydym hefyd yn cynnal ein hymarfer hyfforddiant yn ein blociau tŵr gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae'r ymarferiad hwn yn profi offer i wneud yn siŵr y gall ymladdwyr tân ymateb yn gyflym mewn argyfwng. Gwyddom y gall llwyfan symudol y gwasanaeth tân gyrraedd top ein blociau tŵr.

"Mae gan bob un o'n blociau tŵr hefyd nifer o fesurau diogelwch tân ar waith yn cynnwys larymau mwg/tân, drysau tân, rhwystr tân rhwng pob llawr ac yn fertigol, paent atal dân, dwy set o risiau sy'n gweithredu fel llwybrau gwagu a goleuadau argyfwng.

"Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Croesawn unrhyw ganllawiau pellach gan banel arbenigol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar p'un ai oes angen i ni ystyried mesurau diogelwch pellach a rhoi eu hystyriaethau ar brofion 'system gyfan'.

"Rydym yn symud ymlaen i gynnal profion 'system gyfan', fodd bynnag ein ffocws yn awr yw rhoi sicrwydd i breswylwyr fod y cartrefi y maent yn byw ynddynt yn ddiogel."