Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cynlluniau miliynau o bunnau Cartrefi Dinas Casnewydd ar gyfer adfywio Ringland.

Mae cam cyntaf y prosiect adfywio, a gymeradwywyd gan bwyllgor cynllunio y cyngor, yn canolbwyntio ar ailddatblygu safle Fferm Cot.

 

Mae datblygiad Fferm Cot yn nodi dechrau adfywio ehangach ar ardal Ringland, gyda gwaith adeiladu i' ddechrau yn y gwanwyn.

Bydd y cyfnod cyntaf yn creu:

  • 11 fflat un ystafell wely
  • 19 fflat dwy ystafell wely
  • 18 tŷ dwy ystafell wely
  • 8 tŷ tair ystafell wely

Dywedodd Rachel George, pennaeth datblygu ac adfywio: Fe wnaethom wrando ar anghenion y gymuned, yn dilyn adolygiad o anghenion a galw tai lleol. Ymgynghorwyd yn helaeth â phobl leol drwy gydol y broses ddylunio ac rydym wedi cynnwys eu sylwadau o fewn y cynlluniau.

"Rydym eisiau sicrhau fod pobl leol ar eu hennill o'r buddsoddiad sylweddol a'r gwaith adeiladu yma, felly bydd angen i bob contractwr adeiladu ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl leol."

Mae Powell Dobson Architects yn creu prif gynllun ehangach Ringland ar gyfer landlord cymdeithasol mwyaf y ddinas, fydd yn cefnogi'r cynlluniau a gymeradwywyd. Un o'r newidiadau sylfaenol allweddol fydd dymchwel y ganolfan siopa bresennol a'i symud i leoliad mwy amlwg a hygyrch o fewn yr ardal adfywio.

Dywedodd Nicola Somerville, cadeirydd y Bwrdd: "Rydym eisiau sicrhau fod hon yn gymuned y mae pobl eisiau byw ynddi.

"Rydym yn angerddol am ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy, cynllunio ardaloedd sy'n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag ffynnu a gwella mynediad i gyfleusterau cymunedol.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r grŵp llywio o breswylwyr a manwerthwyr lleol i sicrhau ein bod yn darparu'r hyn mae'r gymuned ei angen, yn ogystal â'r hyn mae'r gymuned ei heisiau.

"Mae'r buddsoddiad miliynau o bunnau hyn yn dyst o'n huchelgais i adfywio'r ardal yma'n llwyr er budd holl breswylwyr Ringland."

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar dudalen Twitter Cartrefi Dinas Casnewydd @NewportCityH a drwy' hashnod #FutureRingland