Mae gan elusen yn Nghasnewydd sy'n helpu pobl sy'n cael adferiad o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau gegin newydd sbon, diolch i Cartrefi Dinas Casnewydd.

Mae'r Voice Hub yn Lôn yr Ysgol yn brosiect dan arweiniad cymheiriaid ar gyfer pobl sy'n cael adferiad a chaiff gymorth gan wirfoddolwyr, gan gefnogi rhwng 30-40 o bobl bob dydd.

Gwneir defnydd helaeth ohono fel gofod cymunedol ac mae'n safle cyson ar gyfer grwpiau cefnogaeth, nosweithiau cwis, digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau campfa a chyfleoedd hyfforddiant.

Fodd bynnag roedd ganddo angen dybryd am gegin ar gyfer staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Esboniodd Steve Masterman, cydlynydd adfer: "Mae gennym lawer o bobl yn dod drwy'r drysau yma bob dydd. Maent yn dod o bob cefndir. Nid oes unrhyw ymwelydd nodweddiadol.

"I rai bobl, dyma'r unig le y gallant ddod lle mae'n ddiogel - gwyddant na fydd neb dan ddylanwad alcohol na chyffuriau.

"Rydym yn cynnig dewis eang o weithgareddau sy'n newid bob mis. Fodd bynnag, yr un peth yr oeddem yn wirioneddol brin ohono oedd cegin. Byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn y gallem ei gynnig yma, felly fe wnes ddechreuais apelio am help."

Pan glywodd Cartrefi Dinas Casnewydd am yr apêl, fe wnaethant gamu mewn a cynnig cyfrannu a gosod cegin yn y safle.

Esboniodd Kevin Ward, aelod o'r Bwrdd: "Mae llawer o angen cefnogaeth i'r rhai sy'n cael adferiad o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, eto mae'r gefnogaeth yn aml yn brin. Pan glywsom am apêl y Voice Hub a gwybod am eu gwaith, nid oedd dim dau amdani y byddai Cartrefi Dinas Casnewydd yn cynnig ei gefnogaeth.

"Rydym yn wirioneddol falch y gallwn helpu'r cyfleuster i barhau i dyfu a chefnogi'r rhai rhai sy'n cael adferiad o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, a hefyd eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach."

Ychwanegodd Steve: "Rydym yn helpu pobl drwy roi strwythur i bobl ar gyfer eu bywydau. Mae bwlch enfawr yn eu bywydau pan roddant y gorau i yfed neu gymryd cyffuriau. Mae'n ymwneud ag aros mor brysur ag sydd modd. Bydd y gegin newydd yn ein helpu ni i helpu pobl mewn angen.

"Yn ogystal â'r gegin, cawsom lwyth o offer fel gorsafoedd coginio cludadwy, cymysgwyr, blendwyr, sosbenni a llestri ac eitemau cegin eraill gan Cymunedau yn Gyntaf.

"Fe wnaethom ddweud yn ein hapêl ein bod eisiau bod mewn sefyllfa i goginio cinio Nadolig i bawb; nawr fe allwn."