Mae Glen Court, ein datblygiad £1.6 miliwn, wedi dod i siâp a dylai gael ei orffen, yn ôl y cynllun, yn yr haf.

Mae'r contractwr lleol P&P Buildings yng ngofal y cynllun yn y Betws, sy'n creu 11 o gartrefi teulu newydd a byngalo gydag offer ar gyfer pobl gydag anableddau.

Mae'r gwaith brics a'r toeau wedi'i orffen ar lawer o'r cartrefi, ac mae'r draeniad oddi ar y safle bron wedi'i orffen. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n awr i greu'r gerddi a meysydd parcio yn y cefn.

Dywedodd Prav De Silva, swyddog datblygu: "Datblygiad Glen Court fydd y cartrefi newydd cyntaf i ni eu cwblhau ers i ni gael ein ffurfio yn 2009. Mae'n garreg filltir i Cartrefi Dinas Casnewydd wrth i ni ddechrau cyflawni ein huchelgais o helpu i fynd i'r afael ag angen tai yn y ddinas.

"Aeth gwaith yn ei flaen yn wirioneddol dda dros gyfnod y gaeaf a rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein preswylwyr cyntaf i'r cartrefi yma."

Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru bron £1 miliwn o grant tai cymdeithasol at y datblygiad newydd.