Cwblhawyd y gwaith ar ein datblygiad £1.6 miliwn yn Glen Court a rydym wedi cymryd meddiant o'r safle.

Cyflwynodd y contractwr lleol P&P Buildings y cynllun yn Betws, sydd wedi creu o 11 o dai teulu newydd a byngalo a addaswyd ar gyfer pobl gydag anableddau.

Dywedodd y swyddog datblygu Prav De Silva: "Mae datblygiad Glen Court wedi'n gweld yn gorffen ein cartrefi newydd cyntaf ers i ni gael ein creu yn 2009.

"Mae'n dirnod i Cartrefi Dinas Casnewydd, gan ein bod yn dechrau cyflawni ein huchelgais o helpu i fynd i'r afael â'r angen tai yn y ddinas."

Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru bron 31miliwn o grant tai cymdeithasol at y datblygiad newydd.