Cafodd datblygiad Cwrt Glen Cartrefi Dinas Casnewydd ei gwblhau'n swyddogol ddoe.

Y contractwr lleol P&P Buildings a gyflenwodd y cynllun yn y Betws, sydd wedi creu 11 o gartrefi teulu newydd a byngalo wedi'i addasu ar gyfer pobl gydag anableddau.

Dywedodd Nicola Somerville, cadeirydd y Bwrdd: "Y 12 cartref newydd hyn yw'r cartrefi newydd cyntaf i ni eu hadeiladu ac maent yn rhoi blas o'r hyn rydym eisiau ei gyflawni. Nhw yw dechrau ein cynlluniau datblygu uchelgeisiol.

"Ein diben craidd yng Nghartrefi Dinas Casnewydd yw creu cartrefi mewn cymunedau y mae pobl eisiau byw ynddyn nhw. Mae'r datblygiad yma yng nghanol Betws yn dystiolaeth o hyn ac yn dangos ein hymrwymiad i adeiladu cartrefi fforddiadwy sy'n addas ar gyfer cymunedau nawr ac yn y dyfodol.

"Mae hyn yn ategu ein hymrwymiad i barhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein cartrefi presennol. Rwy'n wirioneddol falch o'r hyn rydym wedi ei gyflawni yma a'r hyn y gallwn ei gyflawni yn y dyfodol."

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig torri ruban i nodi cwblhau cartrefi adeiladu newydd cyntaf Cartrefi Dinas Casnewydd, sy'n rhoi gofodau diogel, cynnes a chroesawgar ar gyfer teuluoedd yng Nghasnewydd.

Ychwanegodd Prav de Silva, y swyddog datblygu: "Mae ein datblygiad Cwrt Glen wedi'n gweld yn gorffen ein cartrefi newydd cyntaf ers i ni gael ein creu yn 2009.

"Mae'r prosiect yn garreg filltir i Gartrefi Dinas Casnewydd, wrth i ni ddechrau ein huchelgais o helpu i fynd i'r afael â'r angen tai yn y ddinas."

Fel rhan o'r contract, defnyddiwyd y cyfraniad buddion cymunedol i wella'r porth yn Ganolfan Siopa Betws. Fe wnaeth y contract hefyd ddarparu dau gyfle ar gyfer hyfforddiant profiad gwaith uniongyrchol a dau is-gontractwr.